a cheg enfawr. Llygaid brych-lwydion, a'r gwyn yn dra amlwg. Talcen helaeth, llais cyfoethog. Ei swyn yw ei anghyffredinedd. Pregethu'n rhesymegol, eto'n hwylus, hwyliog ac efengylaidd, a'i uchelfannau'n wir huawdl. Un o gedyrn y pulpud, yn ddiau.
Ebrill 13. Sul y Pasg. Luned yn mynd i'r Eglwys Gadeiriol, i'r Gwasanaeth Cymun—yr un Cymraeg, wrth gwrs. Dyfod adre yn bur anfodlon. Ar y Gwasanaeth? O na! 'roedd hwnnw'n ddifai, er na rydd yr Eglwys yr un pwysigrwydd iddo ag i'r Gwasanaeth Saesneg. Ni bydd Côr yr Eglwys Gadeiriol yno. Ni bydd yr Archesgob. Eiddo'r Gwasanaeth Saesneg ydynt hwy! O anfoes! Os rhwysg o gwbl, pam nad yn y Gwasanaeth Cymraeg? . . . yn y gwasanaeth pwysicaf hwn? Lluchia Luned y geiriau:—"Eglwys Gymraeg yw hon i fod. . . . Ond gwasanaeth eilradd a roddir i ni!"
Nac amheued neb ei ffyddlondeb hi i'r Eglwys! Ond y peth a'i cynhyrfodd bennaf oedd gweld Saeson yn dyfod i mewn yn hy cyn diwedd y Gwasanaeth Cymraeg. Chwerthin ar ei gilydd, clochtar yn uchel gan yr hen ffifflenni bach mwyaf difoes erioed. Hanner gair i Eglwys gall!
Ebrill 15. Yr Almaen yn dal i ffyrnigo'i sarn drwy wlad Groeg; heblaw Salonica, dau neu dri phorthladd arall yn ei dwylo. Mwy carlamus fyth yng Ngogledd Affrica. Rwsia'n gwneud cytundeb â Siapan. Ystyr hyn, os gwn i?
Y gorchwyl hyfryd sydd gen i! Ceisio cyfieithu gwaith y bardd Llydaweg, Jean Calloc'h, i Gymraeg. O! ers dyddiau! Gwaith araf, bid siwr, ond hoffus.
Dyfod ynghyd i giniawa, a gwasgar drachefn. Dyma ymwelydd, diddan ŵr o Lyn Dyfrdwy, ar ei ffordd yn ôl o Bwyllgor Canol y Blaid. Siwgr candi o lais, yn adrodd hanes y cyfeillion oll, ac yn synnu at f'enciliad i. Difyrred ei weled a'i glywed. Ar ganol ei stori fwyn, dyfod un o'r hen fyfyrwyr yma—yr annwyl D. R. Jones, a Dai bach yn llamu ar ei liniau. Erys yno am hydoedd, heb air o'i ben, megis angel ym mharadwys. Dirwyn ystorïau, a D.R. yn sôn am awyrblan Almaenaidd a drawodd ysgwydd y mynydd ger Aber fore ddoe, gan ladd un ac anafu dau. Y ddau hynny newydd gyrraedd Bangor, a llond yr heolydd o gynnwrf am gael un olwg arnynt. Cwpanaid o de gyda'n gilydd, a chilio o'r ddau ymwelydd.