Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddlyfr 1941.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adda yn ddwfn yn y glyn, yn anadlu eu mwg i fyny drwy'r tarth; dynion a merched yn rhodio'n ysgafndroed o'r "Ffriddoedd" i'r dref islaw; a dau nodyn y Gwcw'n disgyn drwy'r lledrith uwchben. Luned yn y tŷ, yn chwarae "dau droed bach" â'r babi, Owain, a fydd yn flwydd oed mewn tridiau. Eistedd allan yn llonydd gyfrannog o'r holl odidowgrwydd, sy'n ireiddio meddwl, corff ac enaid. Y meddwl yn gwibio o hyd ac o hyd at y drum ger Minffordd. Yno mae Dai bach yn garcharor.

Awn ato! Awn a gwelwn: gweled gwên, y wên gyntaf er pan ddaeth yma. O! Nid y wên fawr, orfoleddus, ddireidus arferol. Ond gwên, er hynny, gwên Dai bach ei hun. Dychwelwn yn llawenach o lawer. "O! ma' fe yn gwella 'nawr!"

Mehefin

Mehefin yr Ail. Y Llungwyn tlws ei enw. Teg hefyd, onibai am awelon miniog. Dydd o ŵyl, yn anad dim. Codwn ac awn, Luned a'r plant a minnau, bawb, wedi cinio. Y babi yn y pram, pentwr o fara-'menyn, dwy gacen, potelaid o laeth—llefrith, os mynnwch. Bant! yn un llinyn o gwmni llon. Galw gyda Dai bach. O'r sioncyn bach cyrliog, ac mor falch o'i lyfrau lliw a'r "gogi" (siocled)!

Bachgen pwy?—"Dada . . Mama! Dai yn galiad Dada a Mama."

Gadael, yn lled ysgafn galon, ac i Berfeddgoed. Gloddest o liwiau ar bob llaw, a gwyrthiau i'r plant ar bob clawdd, blodau o bob lliw a llun, a nythod adar, efallai. Chwilio'n ofalus am le cysgodol at ein te. Dyma fo, a'r eistedd gorffwysgar am y disgwyliedig bryd yn yr agored. Y Gog yn arllwys ei chathl hithau. Bochio ac yfed fel cewri, ac yna dringo'r clogwyni a'r cnapiau, rhedeg a champro, nes bod pob un wedi cael llond ei fol ohoni. Troi tuag adre wedyn. "O! welsom ni'r un nyth!" medd Lowri. Naddo. Ond dyma . . . yn y clawdd . . . nyth robin goch. A chwech wy ynddi. Wel, am ryfeddu, a llygaid Mererid fel dau lyn disglair, llonydd. Ar y ffordd adre, Sali'n gofyn i'r plant: ""Welsoch chi'r tŷ, o'r top, fancw? Mererid: "Naddo! am nad oedd 'na neb gartre!!" Cyrraedd, swpera, a mynd â llond llygaid o ryfeddodau gyda hwy i'r gwely.

Mehefin 3. Codi'n foddfa o chwŷs: annwyd ers dyddiau, ond heddiw'n llawer gwaeth. Pum darlith, a phob cymal yn llawn gwŷn. Ac ymlusgo i weld Dai, wrth gwrs! A'i