fryn. A mwy o ddiolch nag y gallai llenor o Gymro ei ddymuno byth. Os llenydda, llenydda i ysgafnhau baich dy gyd-Gymro yn y nos fagddu hon, i oeri tafod yn y ffwrn dân.
Heno, salach na sâl. Peswch yn f'ysigo, pigiadau dan y gesail dde. Anodd plygu i orwedd. Peidio â'm tro dyddiol at y trysor, Dai? â'm gwaith gyda'r myfyrwyr, ar yr awr olaf o flaen arholiad? ac â'm llafur ar Ddyddlyfr 1841, y Baradwys Bell? Na! oni'm llwyr orfodir.
Mehefin 9. Peidio a orfu. Yn y gwely, â'r meddyg yn cyhoeddi—Pliwrisi! Yr hen elyn unwaith eto. Daro dy ben di!
Nid mor ddrwg, ychwaith. Un cysur mawr: o'm gwely gallaf weld yr hafn yn y graig ym Mynydd Bangor, yno, tu hwnt i'r postyn teligraff ar ŵyr, i'r union fan y mae Dai bach yn gorfod treulio ei gyfnod gorweddiog yntau. Meddal? O! os mynnwch, ie.
A Luned yn cyrraedd yn ôl oddi wrtho, yn llawn o'i hanes, ac amdano'n holi, ohono'i hun:—
"A Dada'n mendio? . . ."
"A Dada'n codi? . . . "
Chwarddwch, goegwyr, chwarddwch! Yng ngwlych â'm llygaid i.
Cael pwl o ddarllen rhwng y gobennydd a'r golau,—Atgofion Tri Chwarter Canrif, Traethodau'r Dr. Lewis Edwards, As we were.
Mehefin 12. Wedi codi! . . . mymryn bach ddoe, mwy heddiw. Llwynogod o foreau bach eithaf anghynnes. Eu llygedynnau haul, er y cwbl, yn wyrth o groeso. Mentro i'r ardd, mentro i fyny at Dai. Gwên a gwrid, dyna dâl! "A Dada wedi mendio!" "Bachgen pwy?" "Dada."
Ail ddechrau darllen y papurau. Tynged Creta yn hen stori bellach. Heddiw, araith Darlan: Mai pwysig i Ffrainc gydweithredu â'r Almaen. Ffrainc? Pa Ffrainc? Yr hon sydd yn y llwch, yn gwaedu, yn dioddef, yn gaeth, yn garcharor? Cyd-weithredu! Yn gymwys fel y cydweithreda'r oen â'r blaidd a'i llyncodd. A! gŵymp!
Rhaid i'r gwan ddal y gannwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll.
Llefaru'n odidog, er hynny,—am i'r Almaen "godi'n uwch na'i buddugoliaeth," a Ffrainc "yn uwch na'i darostyngiad."