Mehefin 25. Darlithio'r darlithiau olaf am y flwyddyn Golegol hon. Llawen a lleddf. Pentwr o farcio toc.
Gorffen Y Baradwys Bell, a Dai bach a minnau'n mynd i'w bostio. Darllen y Faner. S.L. heb fod ar ei orau, o lawer.
Y newyddion? Pob ochr yn honni buddugoliaethau enfawr. Hawdd y gallant, gyda'r fath filoedd o finteioedd, a'r fath feithder o diroedd. Digon o le i chwarae â rhif a mesur! Un peth nodweddiadol: nid at Sosialaeth y Sofiet yr apelia arweinwyr Rwsia, ond at wladgarwch, serch at dir a chartref, yr hen reddfau naturiol, dyfnion a dynol.
Gorffennaf
Gorffennaf 3. Bore-godi i farcio papurau. I'r Coleg i arolygu—yr arholiad olaf un. Dyma nhw, yn colli'r chwŷs olaf yng ngwasanaeth y Coleg. Yna'n rhyddion, yn "gwhwri" ac yn prancio fel ebolion, ac wedi dwyn awyrgylch eu cartref hyd at ddrysau'r Coleg.
Minnau'n ôl at fy marcio, a dibaid gawod o law gwlithog yn gwlychu safnau crasboeth y ddaear. Gorffen am heddiw, ac allan i dasgu fy llawenydd o'm cwmpas. Ymweled â'r annwyl P.M.J., ac oriau mwynion yn ei gwmni melys. Oriau o sôn am Ffrainc, a'i llên a'i llenorion, ei gwestai a'i gwindai. Oriau o gipio grawnsypiau o'r Baradwys Goll. Oriau cyntaf y gwyliau haf,—oriau iraidd, oriau rhiniol, oriau gwengar. Euraid oriau!
Gorffennaf 5. Oriau celyd o farcio papurau. Diwrnod bach diflas, a'i chwaon aml yn 'mhoeli dail y coed, a'u troi'n guchiog—fel y bydd ceffyl yn tynnu cuwch dros ei wyneb wrth blygu ei glustiau.
Prin gip ar y papurau. Heblaw—be sydd? dim ond honiad a gwrth-honiad. Ac apêl Stalin am i'w bobl losgi eu holl feddiannau wrth gilio'n ôl. Traddodiadol eto. Bendith ar y Rwsiaid!
Gorffennaf 7. Sul. I'm capel fy hun y bore, ac i gapel arall yr hwyr. Y Parch. Philip Jones yn pregethu yno.
Capel llawn, dan ei sang. Draw yn y pellter, henwr hoyw a wyneb gwelw, llym, a thrwyn cam, eryraidd, llygaid miniog, gleision, ac ar ei ben hirwallt wedi glasu'n sidanaidd. At ei gilydd, pryd a gwedd dieithriol, ac arlliw Sipsïaidd ar ystwythter rhyfeddol ei ystumiau. Darllen yn floesg isel, drychiolaethol bron, gydag ymchwydd dieithr yn ei lais. Gweddïo'n