ysbryd i ddotio ar y milfil swynion gyda min y ffordd,—blodau'r sgawen a brenhines y weirglodd, rhos gwyllt a bysedd y cŵn. Brenhines y weirglodd-bu hi'n gydymaith lled gyson i Siôn a minnau ar garlamus daith i Gluny unwaith! A'r bysedd cŵn-a oes wlad yn y byd â chynifer ohonynt â Chymru? Trwy degwch cyson hyd at Dregaron.
Gorffennaf 12. Codi'n hwyrach nag arfer a gorfod gwisgo'm dyn bach. Am y tro cyntaf erioed, ac yn unig yn ôl ei gyfarwyddyd ef! Gorchwyl anodd, anodd, ond hynod bleserus. Braint, yn wir! Pa ryfedd fod mamau'n caru eu plant wrth eu bwydo a'u gwisgo, ac edrych ar ôl holl anghenion eu cyrff? Dyna fraint!
Bwyta ar frys, a Dai'n tynnu arnaf i fynd "am dlo bach." Awn!—gan nad oes dim o'r gwair wedi ei ladd eto. Awn, o gam i gam, yn bellach, bellach, at gyffiniau Tregaron, ac i lawr drwy ei haraf ddyfalwch. Wrth y bont, siarad â thwr yma ac â thwr arall. Pawb yn cwyno . . . am y tywydd, o bopeth! "Rhy sych, rhy sych o lawer," medd y Sadler hirgloff; gewch chi weld y bydd hi'n golledus iawn i'r ffarmwrs os na ddaw glaw'n fuan. Dim glaw ers chwech wythnos!"
Gadael y Sadler glew, a thros y bont, ac i'r sgwâr.
Ymlaen . . . at Golofn Henry Richards. "Dai eisie eiste!" Eistedd. Troi llygaid, sbïo. Tri segurddyn yn dadlau'n wresog, a'r gair "Stalin" yn codi fel tawch oddi ar eu pennau; plant bach diwyd yn mynd ar negeseuau bore dydd Sadwrn; brain yn crawcian ym mlaen tŵr yr Eglwys. Cofio: am fyrdd o bethau yma, am chwarae a champro, am "gwat tlws" fan hyn a'r fan draw, am frwydrau mynych rhwng plant y ddwy ysgol, am ymladdfeydd y cewri tu allan i'r tafarnau yn ymyl, am y ceffylau bach ar Ffair Garon a'r Ffeiriau Cyflogi, am "edrych dwylo" ac am "wneuthur siwgleriaeth," ac am Dai Cilcennin a'i gampau gwyrthiol ar air a gweithred . . . ac am . . .
Codi, a symud tuag adre, a difyrru Dai hyd ddiwedd y dydd. Wedi ei roi ef yn ei wâl yn unig y caf gyfle i fras-gamu dros y caeau, a dringo drwy'r rhedyn i ben y banc.
Gorffennaf 15. Wedi dod! Y glaw! Cafwyd tyrfu a tharanu am oriau y nos o'r blaen. Glaw beunydd, er hynny. Yr aflwydd, ni cheir ymhel dim â'r gwair.