a mynd am dro cyn bwyta. Boreau digon heulog, a difyr i ddarllen yn yr ardd. Y papurau'n llawn o'r rhyfel, o dudalen i dudalen;—y bumed wythnos o dywallt moroedd gwaed yn Rwsia, a'r ymosodiadau o'r awyr wedi dechrau ar Foscow. Lledu ei grafangau beunydd a byth,—Siapan yn agor ei safnau am draflwnc yn Indo-Sina. Gyda chennad Ffrainc, meddir. O Ffrainc! A'r Amerig yn cael plwc go ddrwg o ddig, o arswyd a braw. Ofn! Cam yn nes i'w rhyfel hwy? Cyn bo hir, rhyfel byd.
"Yf win!" Yf yr haul, o leiaf. Yf, llynca . . . o rin y gwres sy'n treiddio drwy ysblander o grwybr bore a huling o niwl gloyw. "Ychydig wridog win, a llyfr o gân "—Os nad o gân, o gamp a gorawen:—The Spanish Tudor, gan Prescott. Llyfr newydd, a champwaith gyda hynny. Pum can tudalen, a sglaen ar bob un.
At fy ngwaith: darllen proflenni'r Baradwys Bell ddwywaith drosodd; ymlaen â'm bwriad i ysgrifennu Hanes Ymfudwyr Llanbrynmair yn 1795. Blino, ac awr o chwysu yn y pridd. Darllen dau o Lyfrau'r Dryw—Gyda'r Glannau a Storiau Gwallter Map. Difyr a da. A'r Llenor. Da yntau, drwyddo draw: er na chytunaf â'r ysgrif—"Y Rhyfel a'r Dewis." Nid gwir dweud nad oes gwahaniaeth rhwng osgo'r Cymry a'r Saeson at y rhyfel. Oes: a sylfaenol. Nid yw'r brenin, nid yw'r ymerodraeth, yn golygu dim byd bywydol, dim byd eglur ac agos i'r Cymry. Yna'r awgrym bach cynnil ond pigog hwnnw—y dioddefa ein "diwylliant yn dost, efallai hyd angau, os gwelir na wnaeth ei noddwyr ddim i hyrwyddo'r ymdrech, . . . paham y dylai gael byw." Fy mhen a'm calon a wrthryfela yn erbyn hyn. O'r colyn!
Awst
Awst 6. Braidd yn gyniweiriol aflonydd . . . wedi addo siarad mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod 'fory.
Oherwydd hynny, rhaid cael te pen blwydd Dai heddiw—er mai fory yw ei ddiwrnod ef. Diwrnod mawr!
Tua hanner dydd, Lowri'n dyfod â'r gacen arbennig o'r siop, mewn blwch mawr. Codi'r caead:—cacen gron, a Pawb ar dantaith hufenog, gwresowgbinc ar ei hwyneb. flaen traed yn ymdyrru i'w hedmygu, a Dai yn fwy na'r un. "O! welwch gacen Dai!" medd ef, gan ddawnsio o gwmpas, a Luned yn darllen iddo'r ysgrifen sydd arni—"Dai yn Dair Oed." Yn fuan wedi cinio, disgwyl am y gwesteion bychain