melys a swynol. Brawddegu'n araf, araf, gydag ambell acen lediaith. Araf, anhwylus, crafu am air. Ystrydeb yn dilyn ystrydeb. . . ac yn arwain i fol Jonah! Dim swmp, dim gafael, dim tanio. Gorffen—mewn di-wreichion fachlud.
Awst 8. I Seiat y Llenorion, Luned a minnau. Gadael y plant am unwaith yng ngofal y forwyn.
I mewn, a'r Neuadd yn lled lawn. Y Cadeirydd, I.W., newydd godi ar ei draed. Ffraethebu ar Seiadau, a mynd rhagddo i sôn am waith y Brifysgol, a'r Eisteddfod. Darllen testun y ddadl—"Bod mwy o angen llenyddiaeth i'r ychydig nag i'r lliaws ar Gymru heddiw."
R.T.—araith arabus, ffraeth, wedi ei pharatoi'n ofalus. Tra arabus, a gwych. Cyfrwys odiaeth, ac yn cydnabod lle'r ychydig, y dethol, hyd yn oed yng Nghymru. O'r tu allan iddynt, y lliaws, y werin a'r miloedd—na ddarllenant Gymraeg, etc. Dim llenyddiaeth gennym ar eu cyfer hwy. I'w denu at Gymraeg rhaid wrthi. Pa fath? "Stwff!" Ni ellir gorfodi plant i siarad Cymraeg! Tewch, da chi! Onid goruchwyliaeth y gorfodi—mewn llawer dull a modd—a ddenodd blant Cymru i ddysgu Saesneg, etc.? Dyna wendid mawr y ddadl. Cyfle S.L.!
Yn nesaf, S.L. Nid mor ffraeth . . . o lawer; ond gellir cael mwy na digon o ffraethineb. Nid ar ei orau, ychwaith. Nid mor hawdd ei sefyllfa, yn wir; gan i R.T. lawn gydnabod pwysigrwydd "yr ychydig." Ymdrech deg i droi'r byrddau ar R.T. Caiff ei gyfle . . . gyda'r "stwff" (er nad yn hollol deg, gan na ddadleuodd R.T. dros i lenorion ddarostwng eu safon). A'i gyfle gorau gyda'r gorfodi. Ei awr, ei gyfle!—a'i ddefnyddio'n dra meistrolgar.
Dadl dda, hyd yn hyn, ond a ddifethir gan . . . " yr ychydig!" Yn gyntaf, Ll.O. a gyfyd i darfu ar enaid pob ceinder. Tarfiad, a cherydd a thwrf. Yna ennyd annifyr o dawelwch. Cyfyd y Cadeirydd, i annog dadleuwyr eraill, gan awgrymu iddynt wneud yr anerchiad a ddylasai ef ar y dechrau. Y diofalwch ysgyfala!
Saib . . . a môr o wynebau'n troi'n ôl. Draw, ymhell yn ôl, ar ei draed y mae gŵr bach, cydnerth, a'i ben moel a'i wyneb heulog yn codi uwchlaw'r llond neuadd syfrdan. Trwy ei wên grynedig, daw'r geiriau hyn—"ei fod ef am ufuddhau i gais y Llywydd, sef dweud y gair a ddylasai ef fod wedi ei ddweud. . . . Dim ond un frawddeg. . . Fy mod i'n credu