Gwahanu'n gyfeillion mwyaf fu erioed. Disgyn i'r ffordd, a dringo i'r Diosg. Ci yn cyfarth, merch yn rhoi llam i'r tŷ i gyhoeddi'r newydd, a dyma wahodd i mewn, a llond cegin o groeso gan Mr. a Mrs. Lewis. Wele fi yng nghartref S.R. a'i frodyr. O flaen y drws, llond cwpwrdd o lyfrau'n gwenu oddi ar eu cefnau—o Eiriadur Charles hyd at y Geiriadur Beiblaidd. Cyfoeth o amrywiaeth! Ac yn cynnwys holl lyfrau'r "Clwb" a "Llyfrau'r Dryw." Nid addurnwyr segur, cofiwch; fel y caf ddigon o brawf cyn pen yr awr. Teulu tra darllengar, heb ddim amheuaeth; un o'r teuluoedd sy'n addurn yng nghoron y werin Gymreig.
Ymgomio'n ddiwyd â'n gilydd. Sieryd Mr. Lewis Gymraeg graenus, dengar dros ben,—Cymraeg gloyw a melys Cwm Nant yr Eira. Ei glaned a'i hawddgared, o flaen llygad y tân, ar brynhawngwaith gwlyb!
Yn naturiol, siaradwn am y Diosg ei hun, ac am ddisgrifiad SR. o'r lle. Gwnaeth S.R. gryn gam ag ef, wrth ei alw'n lle cleiog. "Yr wyf i yma ers ugain mlynedd," medd Mr. Lewis, ac ni ddeuthum at dir cleiog eto! . . . Mi all y Diosg godi cystal gwenith Gwanwyn â'r un fferm oddi yma i Fachynlleth. D'ydwy'i ddim yn ofni cystadlu am hynny. . . . Ddweda'i ddim am wenith gaeaf. . . ."
Adroddodd Mr. Lewis amdano yng Nghyfarfod yr Undeb ym Machynlleth rai blynyddoedd yn ôl, a'r Parch. D. O. yn siarad am S.R. "Yn wir, r'oedd e'n codi cywilydd arna'i 'mod i'n byw yn y Diosg, ag yntau'n disgrifio'r lle 'ma fel un na fedrai neb fyw arno!"
Diau na buasai'r siaradwr hwnnw yn nes i'r Diosg na disgrifiad S.R. ohono. Parchwn S.R. ar bob cyfrif, ond na roddwn goel ar bob peth a ddywed—hyd yn oed am y Diosg.
Aros i de. Dim dau ddewis o gwbl, a Mrs. Lewis a'i merch wedi ei baratoi, a Mr. Lewis yn ymuno â hwy yn y cymell. Te amdani, a'r cewri meibion yn ymuno â ni. Ymgom fer arall, ac i lawr i'r ffordd, ac i Benybont. Bant â mi drachefn i'm taith i'r Bryn Aerau Uchaf, fu unwaith yn gartref i'm teulu. Dychwelyd i Benybont, wedi gwneud diwrnod lled dda o "waith."
Yfory tua'r Pen Cae Du a Phlas Rhiwsaeson a'r Bont, a thrennydd i'r Bont eto, a'r Pennant ac i ben y Dylifai "Stae "—Pen Ffordd Las yn Gymraeg. Wedyn llwybreiddio'n ôl i Gilwinllan, gan alw yn y Tŷ Nant a Rhosdyrnog. Enfys o ddyddiau, er gwaethaf eu llonaid o law.