Llywodraeth. Llwyddo—am ennyd, er cryfed yw apêl y geiniog. Bodlon iawn; a dringo'n ôl tua'r Ffriddoedd, ac i'm haelwyd wresog.
Hydref 22. Bore oerdeg, iach. Llythyrau: un oddi wrth hen fyfyriwr, a'n gadawodd yr haf diwethaf. Yn y fyddin bellach, Cymro da o Ddinorwig, yn awr yn Lowestoft. Teimla'n unig, unig, ac yn awyddus i ysgrifennu at rywun sy'n dal i "fyw y bywyd yr amddifadwyd fi ohono."
Anobeithiol iawn i mi ar y cychwyn. Yna daeth gwaredigaeth, yn ffurf cannwyll, a llyfrau a phapur-cannwyll, i oleuo'r babell fin nos, llyfrau i ddwyn Cymru a'i llên ger fy mron, a phapur i ohebu â chyfeillion am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel. . . . Nid yw'r hen ryfel yma a'i holl lanast ond bychan o'i gymharu â'r gwaith sydd gennym i ddyfod. . .codi ymaith greithiau'r heldrin oddi ar wyneb Cymru.
Daw hiraeth arno, llethol hiraeth . . hyd yn oed am y Coleg a'r dosbarthiadau, ie, am y darlithiau ar Lyfr Job a goludoedd yr Epistolau." Gorffen drwy ofyn am gyngor, "sut y gallaf lenydda orau."
Hyn gyda chofion cynnes, John H. Morris."
Cyngor? Pa gyngor sydd? Eto, rhoddaf gyngor iddo,—i? . . . i gadw Dyddlyfr . . . i ddanfon ambell ysgrif i'r papurau Cymraeg, ac i "Heddiw." A oes gyngor arall? Dalied i feddwl a meddwl " am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel."
Hydref 24. Dwy awr o Goleg, dwy awr o ysgrifennu'r "Newyddion" . . . i . . . ? "Newyddion" Cymru yw'r rheini. Y newyddion eraill yn chwyrnias enbyd: bod yr Almaenwyr o fewn 35 milltir i Foscow; ac yn Llydaw, eu bod yn bwriadu llofruddio hanner can gŵr yn dâl am yr un Almaenwr a laddwyd yno! Can llygad am ddau. Aruthr gynnydd oddi ar ddyddiau'r Hen Oruchwyliaeth!
Wedi cinio, Luned yn fy atgoffa mai Diwrnod Ffair y Borth ydyw. Amau braidd, gan na welais na march na meriyn ar y ffordd i'r Coleg. Digon gwir, er hynny. Canys, ar ganol fy narllen yn nhawelwch yr ardd, clywaf. . . clywaf, yn wir i wala, weryrad march oddi ar ffordd y Borth. Naid calon, pen a llygad am y cyntaf. Dim ond atgofus lef ffair a ffald, "atgof atgof gynt." Ennyd o bêr adfer y gorffennol; ac ennyd o synhwyro fy awyrgylch wedyn, a sylweddoli bod cryn brysurdeb yn yr awyr . . . gan y planiau. Amddiffyn y