Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddlyfr 1941.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canol y prynhawn, mynd tua Maes Geirchen, fel yr hed brân, dros Fynydd Bangor. Ar y bryn, edrych i lawr ar y dreflan fach,—tai ar chwâl, degau heb do, heb dân, degau'n mygu'n dawel. Iddo. Llawnder o bobl yn synlusgo o gwmpas. I lawr drwy Ffordd y Castell. Ei holl ffenestri'n deilchion, a'i thai isaf yn sgerbydau cefn-noeth. Yno, tyrfa o ddynion yn siarad â'i gilydd dan eu dannedd, eraill mor brysur â lladd nadroedd, yn cludo dodrefni'n llwch allan i'r ffordd, curo hoelion, tynnu llechi rhyddion. . . . Yn is, y twll lle disgynnodd y naill fom; newydd ei gau. Iasol fel bedd. Ar ei gyfer, rhes o dai'n rhidyll o'r llawr i'r llofft, eu trawstiau a'u swmerau'n yfflon, a'u to'n agored. Y tŷ pen ar lithr chwâl. Yn uwch, cerpyn o . . . ? . . . o gôt!

"Welwch chi ddarn o gôt . . . fancw . . . ar ben . . . y tŷ 'na . . . ?

"Côt un o'r dynion a laddwyd. Darn o'i gôt, 'na'i gyd! wedi ei chwythu'n ulw, ulw, ulw mân . . . oddi wrth ei gilydd. . . yma a thraw. Newydd gael 'i fraich mewn gardd . . .draw 'na. Pwy? . . . Un o bobol y Bi Bi Ec . . . yn dod adre yn ei gerbyd; mae'n debyg iddyn' nhw weld i ole 'fo, a thaflu bom . . . Disgynnodd yn lled agos iddo, . . . chwythu ei gar ac yntau. A'r tŷ 'na! . . . ar lawr, 'welwch. Gwraig fach ynddo fo, a phlentyn pum niwrnod oed ganddi, y ddau'n achub. Ond ei mam, a redodd amdani, yn cael ei lladd! A'r dyn o'dd newydd droi allan fel Warden. . . Heblaw'r rhai a anafwyd . . . 'ŵyr neb faint. . . . Alle fod yn waeth . . . "

O'r chwedl drist! A phawb yn ei hadrodd, a phob clust yn clywed rhyw gymal ohoni, i dde a chwith, gan un a dau a dwsin. Ymsymud dros ddarnau o'r chwalfa, a'r ymgasglu cynebryngol ym mhob cyfeiriad. Merched yn cymell ei gilydd i ddyfod i'w tai hwy ym Mangor. Derbyn a gwrthod, bob yn ail â sychu dagrau, a gwahodd yr edrychwyr i'r tai. "Dewch i chi gael gweld," medd un. Camu dan y drws, o garnedd i garnedd: y ffenestri'n gareion, y muriau'n graciau, y dodrefn yn bentwr rhyddion dan lwch a gwydr, y gwelyau'n garfan o dorion, y cloc mawr, ar ei led orwedd, wedi tewi â'i dician. Y gŵr a'r wraig yn cadw gwên ar eu hwynebau, a dwyffrwd o eiriau ar eu tafodau:—

" . . . roeddem ni newydd fynd dan y grisiau . . ac yno y buom ni, a'r tŷ'n crynu amdanom ni . . . a'r gwydr yn syrthio'n deilchion . . . . Oni bai. . . Duw a ŵyr . . . lle i ddiolch . . .