Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddlyfr 1941.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bod yn bosibl ei (sic) harogli o bell, ond i chwi, Mr. Cynffonwr, goleuni y byd ydynt i'r Llydawyr. . .

Anodd genych ddychmygu am Paris heb y Notre Dame, ar un mor anodd i filoedd feddwl am Paris heb y tai "Red Lamp," ond cofiwch bod a wnelo y Babaeth a sefydlu y naill le fel y llall, mae gwledydd Pabyddol yn trwyddedu Puteindra."

Paragraff arall ar fy nisgrifiad o Eglwys Quimper, a'm "cyfareddu" ganddi: "ond dyna sy'n rhyfedd bod miloedd a miliynau o bobl erioed llawn cyn galled a chwithau wedi bod yno, a gweld dim ond rhwysg a gloddest paganaidd pabyddol. . . .'Beibl y tlodion,' ai e, Mr. Protestant. Ofnaf fod y Tad Mc Grath ai griw wedi eich blyffio yn iawn pan oeddynt yn eich goglais chwi ag eraill wrth ddysgu yr Iaith Gymraeg mor selog tua Bangor yna. Cofiwch mae gofyn tipyn o asgwrn cefn i fod yn Brotestant, medr pob hurtyn fod yn Babydd. . . Mae y frawddeg olaf tudalen 107 yn profi yn bendant nad ydych Athraw na Chynghorwr diogel-darllenais ymlaen i'r diwedd gyda thipyn o ymdrech.

Fe fydd enw Syr O. M. Edwards yn fyw yng Nghymru pan y bydd enwau fel Bebb, Daniels a Lewis wedi ei (sic) llwyr anghofio."

Dyna! Melys, moes mwy . . . ? Pedair tudalen: dyfynnais fwy na thraean. Y pigion efallai,—pigion mewn dau ystyr. Perl o lythyr bach pigog, anynad. Perl mewn adfyd! O'r hen ŵr mwyn, pam na roddaist dy enw wrth waith dy law? . . . yn enwedig gan i ti sôn am y "tipyn asgwrn cefn sydd yn eisiau ar Brotestant?" Meddwl am dy golled, yn amddifadu'r byd o enw un arall o'r arwyr mawr . . . o BEN Y GROES!

Tachwedd 16. Bore Sul, broc a budr. Tua'r capel. Siomi—am nad oedd y gŵr a gyhoeddwyd yno. Di-siomi, am fod gŵr na ddisgwyliwn yn ei le,—y Prifathro J. M. Jones, Bangor, yr anwylaf o holl Brifathrawon Cymru. Brithlwyd o bryd a gwedd, sioncyn ystwyth, yn llawn asbri bachgennaidd. Fy ffodused,—cael gwrando arno, a chael gwledd annisgwyl i glust a llygad. Gweddïa . . . am i Dduw faddau inni ein pryder a'n balchter, am iddo gofio bechgyn a merched pob gwlad, am . . . ; a gwres yn cerdded trwy'r llais llwyd. Pregetha . . . ar Farc iii, 14-15: Crist yn dewis y disgyblion. Y pwnc yw: ffordd Crist o weithio. Nid Ei ddelfrydau, ond Ei ffordd, Ei ddull, Ei foddion. Sef, ymddiried mewn ychydig, cymdeithas bersonol ag ychydig, o berson i berson, o galon i galon.