Lowri: 'Ydy o, wir!
Mererid: 'Ydy' hi, 'te! Fi ydy' hi.
Dai: Na fi ydy' hi!
Yn hwyrach, dyfod yn gylch am y tân i ganu. Dai ar fy nglin i, ac yn rhyw ymuno â'r gân bob yn ail â chwarae dau fys yn ei gudynnau aur, arwydd sicr bod y Meistr Cwsg yn dawnsio am ei lygaid. Cyd-ganu:—
- "Pwy sy'n dwad dros y bryn? . . .
- "Mae'r saith ryfeddod yn dy sach . . ., etc.
Carol neu ddwy:—
- "Mae'r bugeiliaid wedi cychwyn
- "Iesu yn y preseb . . ." (cyf. gan Luned).
Gorffen gyda "stori fawr,"—hanes Siôn Corn yn cychwyn o wlad yr Eira, a'i wraig yn ei helpu i wisgo amdano; mynd i'w slêd, neu gar-llusg (y plant yn taeru na fedr ddyfod mewn llong awyr, rhag ofn i "Heclar" (chwedl Dai) ei saethu ar y ffordd!) . . .ac yn y blaen i bob tŷ o bwys (h.y., i'r plant) ym Mangor.
Rhagfyr 25. Brenin y Dyddiau—Dydd Nadolig!
Oriau cyn ei ddyfod, ar gefn nos dywyll, Hywel yn fy neffro, ac yn holi:—"Dada, ga' i fynd i weld be ma' Siôn Corn wedi ddod?"
"Ganol nos? . . . bachgen! Cysga!"
Cysgu'n ôl . . . am hir. Yr un cais wedyn! "Rhy fore, 'ngwas i!" Yn nesaf, Lowri'n cyniwair yr holl le, â'r un cais:
"Faint o'r gloch yw hi?" "Saith."
"O'r gorau 'te."
Bant â nhw, i lawr dros y grisiau, a thrwy ddrws y gegin, ac am y peiriau sanau. Ennyd o ddarganfod am y distawaf. Wedyn, y torri allan a'r gorohian,—o'r hynaf i'r lleiaf, ar draws ei gilydd:—
Lowri: "O! Nedw! . . . Nedw!"
Mererid: "Llyfr i finne,—Dail Difyr! . . . a Siocled! . . .
Hywel "Castell i fi . . . welwch. Castell iawn!"
Dai: "Wagen i Dai; wagen, a da-da ynddi, a... Blith draphlith—"O! siocled i minne, Da-da
Eu darbwyllo o'r diwedd i ddychwelyd i'w gwelyau, bob un â rhywbeth at ei ddant, a llond ceg o gnoi, grymial, crensian, ymlefaru.