Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagluniaeth, ar baladr goleuni―ter,
Hwnt, oedd yn penodi
Rhesau treiswyr i astrusi,
A hwyl hyrwydd i lu Harri,
I ail ynnill yn ol inni,
Ein tir anwyl a'n tirioni;
A brwydr er adfer en bri,—ydoedd hon,
I'n Brython bur wythi.

Gerwin wŷs anwar yr udgorn seiniai,
A thwrw arwrol uthyr or-awriai,
Trwy'r awyr uchod, hir yr her-wawchiai,—
A swn, hyd adref, hyson a didrai,
O bwyntiau wybyr, a'i bau atebai,
Hedd-luest Anian a ddolysteiniai;
Mal ar wirodydd, y milwr wridai,
Ei ysbryd enwyllt a'i asbri daniai,
A gwyn arf a gynhyrfai—dechreu wnaeth
Mawr rôch aerwriaeth, a'r march weryrai.

O'r rhengoedd!—ein tynged rhyngddynt hongia!
Syr Rhys ap Domos yr yspaid yma
Dasgai ei filwyr, ac nid ysgafala,
Ond tynn i'r byw oedd tynwyr y bwa,—
Tynnent am goron Britannia,—cystal
Ar awr y treial ag arwyr Troia.

Y gwyr o saethyddion gwarsyth oeddynt,
A bywyd-annel y bwa dynnynt,
A thafai cawri saethau fel corwynt,
Yn haenau dallol, y nen dywyllynt;
Yn do arswydus hwy draws ehedynt,
A thrwy dariannau, aruthr drywenynt,
Ein trâs, o gwmpas a gwympynt!—ond mwy
O ach Afarwy i'r llwch a fwrynt.