Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagair

WELE dair o awdlau Eben Fardd, a rhai o'i adgofion am fore ei oes ac am gymdeithion ei febyd. Gwaith gwanwyn ei fywyd yw Awdl Dinistr Jerusalem. I ennill cader Eisteddfod Powys yr ysgrifennodd hi, yn haf a gaeaf 1823 a gwanwyn a haf 1824. Yr oedd wedi darllen ei Feibl yn ofalus, a darllennodd yr hanes rydd Josephus chwerw rhwng y Rhufeiniaid a’r Iddewon. Enillodd Josephus ei gydymdeimlad hefyd. Nid yw cynllun yr awdl yn berffaith, ond y mae saerniaeth fanwl a chelfydd arni; a thybiodd Gwallter Mechain, wrth ei darllen, ei fod uwchben meddyliau athrylithgar Dewi Wyn. Y mae yr awdl hon hyd heddyw y fwyaf adnabyddus o awdlau Eben Fardd, oherwydd ei bod yn ferr, yn llawn darluniau by w, ac ar destyn adnabyddus.

Gwaith haf ei fywyd yw AWDL BRWYDR MAES BOSWORTH. I ennill cader Eisteddfod Llangollen, yn 1858, yr ysgrifennodd hon. Dengys ef ar ei oreu fel cynllunydd medrus ac fel chwiliwr manwl Er ei fod yn rhoi gormod o glod i Syr Rhys ap Thomas, a rhy ychydig i Stanley, y mae wedi llwyddo i roddi bywyd y canol oesoedd yn gywir a byw. Ynni'r frwydr, a gwladgarwch brwd, yw prif swyn yr awdl hon.

Gwaith cynhaeaf euraidd addfed bywyd Eben Fardd yw Awdl y Flwyddyn. I ennill cader Eisteddfod Caernarfon, yn 1862, yr ysgrifennwyd hi. Enillodd y ddwy awdl arall gader, ond ni