roddwyd buddugoliaeth i hon. Eto hi yw camp bywyd y bardd, ac erys yn un o drysorau pennaf yr iaith Gymraeg. Gellir ei darllen bob dydd heb flino arni, a daw rhyw dlysni newydd i'r golwg yn barhaus. Nid o dudalennau Josephus neu Fabyan y cafodd ddefnyddiau at hon, ond o fywyd o graffu, gyda phleser angerddol, ar haf a hydref, gaeaf a gwanwyn, yn swyn byth-newydd eu tro, ac yng nghyfoeth dihysbydd eu tlysni. Y mae yn yr awdl ugeiniau o ddarluniau, a phob un mor fyw fel y dug lawenydd i'r meddwl drwy ddeffro adgofion am olygfeydd tebyg. Y mae pob peth mor wir, y mae pob darlun mor gain, y mae'r cydymdeimlad mor fyw, fel y mae ystor o hyfrydwch yn drysoredig yn Awdl y Flwyddyn. Nis gwyddom pa un ai plentyn aiddgar ai athronydd hapus yw'r bardd amlaf. Gellir dechreu lle y mynnwn, gellir aros hynny fynnwn uwch pob darlun,—teimlwn o hyd mor onest, mor bur, mor wylaidd yw Eben Fardd wrth ddilyn camrau creadigol Duw.
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/14
Gwedd