Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni fu ddinas mwy llawn o feddiannau
Yn trin cymaint o arian ac emau;
Un orhoff, orlawn o aur a pherlau;
Ceir ynnod luosog gywrain dlysau,
Aroglus, wiw-goeth, rywiogawl seigiau,
Olewydd, gwinwydd, i'r genau—rydd hon,
O! ddinas wiwlon, ddaionus, olau.

Lliwdeg ddyffrynnoedd Ilydain,
Sy o gylch y ddinas gain;
Llwyni fyrdd yn llawn o faeth,
Llwyni, llennyrch, llawn lluniaeth;
Y blodau wynebledant,
Ac yn eu nôdd gwenu wnant;
Dyferion gloewon y gwlith
Clau, ar eginau'r gwenith,
Glaswellt a gwyrddfrig lysiau
Ymhlith y blodau'n amlhau:
Gerddi teg, iraidd eu twf,
Dillyn ardai llawn irdwf.
Cu ydynt y cawodau,
Y fro sech a wnant frashau;
Haul glwys i loewi y glyn
Ergydia'i belydr gwedyn.

Ali res euraidd, mil o ros Saron,
Geir, a lili a'i gwawr oleulon,
Ar dwf iraidd, yn rhoi dyferion,
O deg liwiau, hynod, a gloewon.

Acw yn y tiroedd clywir cantorion
A'u syml, luosawg, leisiau melysion;
Anian ogleisiant—O donau glwysion!
Ar gangen eiddil, per gynganeddion;
Pereidd-der, mwynder eu meindon—chwâl fraw,
Ffy, derfydd wylaw a phwdr-feddylion.