Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phar anadl eu ffroenau,
Yn un llen i'r nen wyllhau—
Nifwl yn gwmwl a gerdd,
Hyd wybr deg hed brwd agerdd—
Chwyrn welediad ofnadwy,
Annof, y meirch ofnaf mwy,
Eu llygaid tanbaid bob tu,
Oll tanynt yn melltennu,
Ysgogant mewn rhwysg agwrdd,
Ymdaflant, hyrddiant mewn twrdd.

Golygaf, ac af o'm cell
Allan, caf weled wellwell,
Dda drefn yr holl luoedd draw,
Ba ddynion sy'n byddinaw?

Titus flaenora'r dyrfa frwd arfawg,
Canan wna'n brif-ffordd i'w osgordd ysgawg,
O mor ddiflin ei fyddin arfeiddiawg,
Rhai'n trin y bwa, rhont droion bywiawg;
A'u dieisor dywysawg—uchelfron,
Trecha ei elynion tra chalonnawg.

Ac allan daw'r picellwyr,—hwy fwriant
Rai'n farwol gan wewyr;
Anturiol, gwrol y gwŷr,
A dewrion esgud aerwyr.

Yna'r marchluoedd floeddiant,—rhyfelwyr
Filoedd a ddilynant,
Ni luddir, iawn lueddant,
Cedyrn, lluon chwyrn, llawn chwant.

Eto rhyfeddaf ar hynt arfeiddiog,
Dewrion benaerwyr, cedyrn banerog,
Nesânt i'm gŵydd, a'r arwydd eryrog
Ar eu llumanau, llennau cynlluniog: