Rhyfelwyr llawn gorfoledd,
A llu gwych mewn dull a gwedd;
Mawrhydri ymerodrol
Ddanghosant, pan ant yn ol;
A da olud i'w dilyn,
Byddin gref—heb ddyn a gryn.
Wele y ddinas heb liw o ddynion,
O! O! drwm haeriad, ond y rhai meirwon;
Heb le aneddawl i bobl newyddion,
Rhuddwaed ac ulw yw'r eiddo âd gâlon,
O! mor wael, a marwolion!—ceir hyll drein
Mwy ar GAERSALEM, er gwae'r oesolion.
Y fan, i fwystfilod fydd,
Tynn rhai gwylltion o'r gelltydd;
Byw wrth eu melus borthiant
Yma ar gyrff y meirw gânt;
Cigfrain yn gerain o gwrr
Draw y pant, gyda'r pentwr;
A'r lle glân, wedi'r holl glod,
Llenwir o ddylluanod;
Pob bwystfil yma gilia,
Hoffi yn hon ei ffau wna;
Diau af finnau o'r fan,
Mae'n well i minnau allan;
A gado'r fan rwygedig,
Ddi drefn, i'r sawl ynddi drig.
Ah! wylaf, ac af o'i gŵydd,
Hi nodaf yn annedwydd;
Distryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.