Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- Y Flwyddyn
- Gair at yr Awen
"Y FLWYDDYN," mawr fawl iddi,
"Y Flwyddyn" yw 'nhestyn i;
"Y Flwyddyn" sy' destyn da
I'r awen a'i hamrywia;—
Gan hynny rhag un anaf
I gof nôd Gaeaf a Haf,
Tyrd, Awen, tro dy hewyd
At amcan y gân i gyd.
- Deffiniad anianyddol y Flwyddyn
Blwyddyn, mesuryn amserol—ydyw,
O'i adeg dymhorol,
Y dyry'r glôb daearol,
Drwy emau ser, dro am Sol.
Hyd eu blwyddyn tynn plant dynion—yn ddoeth
Oddi ar yr un safon;
Er nad yw eu diwrnodion
O'r un rhi a ni yn hon.
Y Ddaear i bawb ddywed
Eu blwyddyn,—sef yr hyn 'red
O dreigl i dreigl, un llawn dro,
Gwmpas Palas Apolo;
Dyna flwyddyn dyn, â'i deg
Bentymor, heb wneud dameg.
- Annerch Pellach at yr Awen. ar iddi
ymddyrchafu i Alban Eilir yn arwydd yr Hwrdd
ac ymsefydlu yno at waith y gân. Deisyfiad
am ei hysbrydoliaeth.
- Annerch Pellach at yr Awen. ar iddi
Hed, Awen, i ben y byd,
Hed ar enfys dwyreinfyd;