Yna'n uwch, o nen i nen,
Hofia trwy y ffurfafen;
Esgyn, disgyn, ar d' esgyll,
Trwy dragwyddawl wawl neu wyll;
Yna sefydla'n fodlon
Ar ryw hirbell linell lon,
Yn nhalaeth Alban Eilir,
Lle mae'r Hwrdd, y llamwr hir,
Yn troedio crib trideg gradd,
Yn ehud iawn, i wahadd
Ato yr haul, yn hynt ei rod,
I westa am ryw ystod:
Dyna lle cei weld anian,
O'i thirion gylch, i'w throi'n gân,—
Y ddaear yn ymddeawl
Yn bêl bach, o bawl i bawl,
A'i threiglad trwy uthr wagle
I uchel nôd, gylch haul ne;
Gan wneyd, fel hyn, y testyn tau,
"Y FLWYDDYN," yn fil o weddau.
O'th le balch, wrth haul y byd,
Llanw fi, yr holl ennyd,
A'th nefol anian ganu,
At wedd gas, neu at wedd gu,
I'w troi yn wir bortreiad
Hardd o fodd, yn y gerdd fad,
Fel anian ei hunan,—hyn
Deifl addysg da y flwyddyn.
Dan dy sel, mewn haul belydr,
Gyrr i mi y geiriau mydr,
A'th ysprydiaeth sibrydol,
I'm rhaid, na bo dim ar ol.