Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Awelon y Cyhydedd.

Awelon uchel a lawenychant,
Adeg cyhydedd eu nwydau codant;
Ag ynni edlym bywiog anadlant
Anadl i anian yn ei hadloniant;
Y neint, o wallus nwyon, wyntylliant,
A hwyr a bore, yr awyr burant;
Y rhingyll-wyntoedd a groch gyhoeddant,
Fod y gwanwyn, a'i fyd o ogoniant,
Yma yn neshau, ym monwes ieuant;
Hwnt o or-daflu natur o'i diflant,
Oes y gwyrdd-ddail i mewn osgorddant,
Oes o hedd i'r llysiau wahoddant,
Oes o bwysi hysbysant,—yn bybyr,
Siriol, a difyr,—oes yr ail-dyfiant.


Arluniau yn y gwynt, megis teithiwr ar
draed, a'r gwynt i'w wyneb.


Dacw'r hutyn dyn ar daith
A'i amwisg ar fynd ymaith,
Yn ei gôb fawr yn gwibio
Drwy'r ffyrdd, â'i odre ar ffo;
Mewn llawn dynn, mae un llaw'n dal
Ar ei het, er ei hatal,
Rhag, odid fawr, y gedy
Ei ael frwd, i'r awel fry.


Llong yn "gorwedd wrthi"


Dacw y llong o'r doc ollyngwyd,
Yn "gorwedd wrthi," mewn lli llwyd;
Hi aeth lom a noeth-lymun,
Yn nwydd moel, heb hwyl, ddim un;—
Hwylbrennau, llathau lleithion,
Ac ambell raffbraif, ger bron;
Dyna'i threc dan noeth ddrycin
Ym murmur blwng môr mawr blin.