Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy y llwyni, twyni teg,
Ymrodia,—dynia'r adeg
Nodi hoen, a gwrando ar
Ddrydwst nwyf-gerddi'r adar;
Pawb â'i gymar yn barau
O wedd deg, yn ddau a dau,
Yn llygadlon gynffonni
Yn y llwyn, ym min y lli;
Miwsig masw a leinw lwyn
O'u gyddfau pluog addfwyn.
Pob pig fel pib a chwiban,
Ac o frig îr, cwafria gân;
Pob pig drwy'r wig draw ar waith
Yn crynnu cainc ar unwaith;
Pob pig ei miwsig moesa,
Pob siol a phig, pib sol ffâ.

Rhagor sy rhwng rhywogaeth,
Rhagor maint, a rhagor maeth,
Rhagor llun, a rhagor lliw,
Rhai'n or-las, rhai yn eurliw;
Rhagor llais, rhai gwâr a lleddf,
Yn eu cân, dyna'u cynneddf;
A rhai llon yn chware'u llais
Sain-eglur, nes ein hoglais;
Amrywia eu mir awen
Heb un bwlch o ben i ben,
O'r gryglyd wich i'r greglais,
O wâr lef i'r eryr lais;
O'r dawn wng i'r dôn angel,
O'r sïan main i'r swn mêl.

O!'r ehedydd fydd mor falch
O'i fywyd ef a'r fwyalch;
A'r fronfraith fwria'i hunfryd
Ar y gân yn awr i gyd.