Adgan ar fechgyn yn ysglefrio.
Y bechgyn, er rhynn yr iâ,
Wych rwyfant i'w chwareufa;
Oll yn fyw a llawn o faidd
Ar y lithren or-lathraidd;
Hawdd gamp fydd llithro'n ddigur
Ar ysglent, heb drwsgl antur,
Fel ergyd gwefr i 'sglefrio,
Ar frys, gryn hanner y fro.
Y noswaith loergan, a golygfa y nef serenog.
Cawn gan Sol ryw nefol nos,
Oriau hirion, er aros
Agor ei ddor dde-ddwyrain
I wthio i'n mysg ddwthwn main.
Y mae'r lloer ym mro y Llew,
Talaeth y tanbaid hoew-lew,
Yn gron yn ei gogoniant
Mewn asur gylch, mân ser, gant;
Ar hynt deg, Oreion tyrr
Fawr wib i yrfa'r wybyr;
Gan ddwyn hoew a gloew "gledd,"
Ar "wregys" eurwawr agwedd,
Gwych yw gwawr y "Ci mawr," mâd,
Dihual yn dyheuad.
Raddau 'mlaen, ar ddim o le,
A'u goglud ar y gwagle,
Y chwery llu llachar, llon,
Y Tewdws a'i atodion.
O'r eang nen, rhyngyn' nhŵ;
Terwyn lygada'r Tarw
Ar y llachar Droell uchel,
Loyw bur Rod, mal heibio'r el.
Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/69
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon