Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwel glogwyn pinaglawg hen Griccieth gastellawg,
Uwch annwfu trochioniawg, ardderchog ei ddull,
Uwch agwrdd grych eigion a'i lidiawg waelodion,
Mor dirion i feirddion ei fawr-ddull.

Hyd Dreflys a'r Ynys fy nhuedd a nhywys,
Tremadawg ymddengys yn drefnus ar draeth,
Goleidiawg waelodion, le treiglai y wendon,
Yn feillion tra hylon, tir helaeth.

Ar fynwes Eifionnydd, fy anwyl Eifionnydd,
Y magwyd ein Dafydd,[1] dieilfydd ei ddawn;
Mae'r Bardd Du[2] 'n ymlonni oherwydd ei eni
Rhwng llwyni a deri 'r fro diriawn.

Fy anwyl Eihonnydd, bwriadai yn brydydd
Ei Phedr[3] sy mor gelfydd ei gywydd a'i gân.
Ac Eliss[4] o'i goledd, rhad awen o'r diwedd
Droi 'n sylwedd o unwedd a'i anian.

Planhigyn o ganol Eifionydd wiw faenol,
Yw Morys[5] awenol, farddonol ei ddawn;
Paradwys y prydydd yw f anwyl Eifionnydd,
Bro lonydd llawenydd, le uniawn.

Clau wrandaw!-clyw'r wendon yn siaw yn gyson
Hyd lenydd gwyrddleision bro Eifion bêr hardd,
Wrth weld ei wrth-gysgod ar Gantrefy Gwaelod,
Myfyrdod sy'n gorfod y gwirfardd.


  1. Dewi Wyn.
  2. Robert Ab Gwilym Ddu.
  3. Pedr Fardd.
  4. Ellis Owen, Cefn y Meusydd.
  5. Nicander.