Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII
CHWAETH

1. Beth ydyw Chwaeth? Mewn Celfyddyd a Llenyddiaeth, wrth Chwaeth golygir y gallu i werthfawrogi prydferthwch, ac i gynhyrchu gwaith prydferth a rydd foddhad i eraill. Megis ag y gall cogydd o chwaeth dda ddarparu arlwy flasus i nifer o wleddwyr, felly y medr llenor a bardd o chwaeth ddiwylliedig arlwyo bord ar gyfair eu dar—llenwyr, nes dywedyd o bob un o honynt, "fy ffiol sydd lawn."

Peth cyffelyb yw Chwaeth yn natur esthetig dyn i'w gydwybod yn ei natur foesol, neu ei farn yn ei natur feddyliol.

[Gwêl II, 3, (iv) td. 22.]

2. Tuedd Beirniadaeth Lenorol Ddiweddar. Canfyddir tuedd mewn rhai Beirniaid diweddar i ysgaru Chwaeth a Beirniadaeth oddiwrth ei gilydd. Cyfyd hyn, o bosibl, o'r arferiad o ystyried mwynhad personol pob darllenydd yn fath o safon lenyddol. Y mae'n amlwg y dichon y cyfryw safon, yn fynych. ymddirywio nes ei bod ynglŷn â