Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Browning ei fys ar achos yr anwadalwch hwn,

"Maws out of sorts make mouths out of taste."

Nid yw'r anwadalwch hwn, fodd bynnag, yn cyfiawnhau unrhyw Feirniad Llenorol am ostwng ei liniau o flaen duwiau dieithr, a'u hallorau halog. Pan hacro proffwydi Baal eu hunain â chyllyll ac ag ellynod, nid oes raid i Elias ddilyn eu hesiampl. Ei ddyletswydd ef ydyw "Adgyweirio'r Allor adferyd chwaeth y bobl at yr hyn sy wir, yr hyn sy iawn, ac yr hyn sy bur.

4. "De Gustibus non Disputandum,[1]" meddir. Digon gwir mewn llawer cylch o fywyd: e.e:, Nid oes le i ddadl yng nghylch chwaeth ynglŷn â bwydydd a diodydd, dillad a dodrefn, ac addurniadau personol. Eithr nid yw'r hen ddywediad Lladinaidd yn wir ynglŷn â gweithiau Celfyddyd, ac yn arbennig ynglŷn â chynhyrchion llên. Purir, dyrchefir, a safonir Chwaeth pobl gan Chwaeth llenor, bardd, a Beirniad o brofiad helaeth. Ym mhob oes, ceir awduriaid y mae elfen deddf yn eu barn ac yn eu chwaeth,—neu yng ngeiriau Anatole France, "les jugements qui font loi," h.y., "barnau a wna ddeddf."

5. Safon orau Chwaeth. Yn ôl Aristotl, trig awdurdod derfynol mewn materion o Chwaeth lenorol yn yr hyn "a benderfyna'r

  1. Ni ddylid dadlau ynghylch chwaeth