Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gŵr doeth." Wrth "y gŵr doeth," golyga ddyn o ddiwylliant meddyliol, o farn gytbwys, o ddirnadaeth gyflym, dyn iach ei natur, ac eangfrydig ei ysbryd.

Gellir, efallai, godi gwrthddadl i farn a chwaeth y cyfryw "ŵr doeth" ar y tir nad oes neb yn hollol rydd oddiwrth ragfarnau personol, ar gyfrif tymheredd dyn ei hunan, ac awyrgylch yr oes y perthyn iddi.

Er hynny, y mae Cytundeb barn a Chwaeth nifer fawr o'r cyfryw "wŷr doeth," o oes i oes, yn haeddu ystyriaeth ac ymddiriedaeth pob llenor, hen ac ieuanc. Ymddengys i mi fod J. A. Symonds yn agosach at y gwirionedd nag Aristotl; "No single wise man," eb Symonds, "decides any question. A concensus of wise men is needed to establish taste." Cofier, gyda llaw, linell Browning——

"One wise man's verdict outweighs all the fools."

6. Diffyg Chwaeth yn Bechod Llenorol. Ystyria Anatole France ddiffyg Chwaeth yn bechod a berthyn yn agos i'r pechod y sonia'r Ysgrythur am dano fel " y pechod anfaddeuol," a dyry enghraifft nodedig o hono o un o weithiau Emil Zola. Dyma hi: "A garech gael enghraifft o'r gwendid anfeddyginiaethol hwn? Dengys M. Zola i ni yn 'la Terre' wladwr anllad, rhyw herwheliwr meddw, a elwid, oherwydd ei farf fyr—fain, ei wallt hir, a'i lygaid llaith, ar yr enw Iesu Grist. Cyfeiria M. Zola ato'n barhaus dan yr enw hwn; a thrwy hynny, defnyddia ymadroddion fel