Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceir nifer o resymau a gyfrif am hyn; e.e.:

(i) Fel y dangoswyd uchod, ysgerir profiad esthetig oddiwrth alwadau bywyd cyffredin. Nid yw Estheteg yn wyddor ymarferol, nac yn un o'r celfyddydau a sicrha "fara beunyddiol" i'r sawl a'u hoffo. Y mae'n rhaid hau a medi, plannu coed a llwyni, a deall deddfau tyfiant grawn a ffrwythau; eithr nid oes raid holi paham y rhoddant fwynhad i'r llygad ac i'r meddwl. Oblegid hynny, gohiriodd dynoliaeth astudio'r mater.

(ii) Cyfyngir profiad esthetig, oddieithr yn ei ffurf symlaf, i ychydig bobl; h.y., nid yw pynciau Estheteg yn faterion o ddiddordeb cyffredinol. Peth dibwys ym marn y lliaws ydyw problemau esthetig: e.e., Paham y rhydd darlun neu gerflun, telyneg neu ddrama, fwynhad i'r meddwl? Ystyrrir y fath gwestiwn, gan y mwyafrif o bobl, mor ddifudd a holi wrth arlwy dê—Paham y mae siwcr yn felys? Os dechreuir egluro i'r gloddestwyr y perir y melyster yn rhannol gan gyfuniad yr elfennau sydd yn y siwcr, yn rhannol gan y sudd a gyfranna'r genau, yn rhannol gan weithrediad y nerfau ac yn bennaf, efallai, gan weithgarwch y meddwl, tebyg y chwarddant am ben yr Esthetegydd, gan roddi ychwaneg o siwcr yn eu cwpanau