Prawfddarllenwyd y dudalen hon
tê, a gadael y mwynhad esthetig i gyd iddo ef!
- (iii) Ac ymhellach, ni châr yr ychydig a ŵyr am y profiad llednais hwn ei osod dan oleuni oerllyd llusern gwyddoniaeth. Mwy cydnaws â'r Ysbryd Esthetig ydyw Goleuni Mwyn" y Ddirgelfa Santeiddiolaf.
- (iv) Amrywia Chwaeth a barn pobl yn ôl graddau eu diwylliant. Nid yw pawb yn yr un ystad o ddatblygiad esthetig. Am y rhesymau uchod, nid ydys wedi llwyddo hyd yn hyn i gyfundrefnu profiadau esthetig yn foddhaol, heb sôn am ddarganfod yr egwyddorion sylfaenol a llywodraethol sydd y tu cefn iddynt.
5. Dyma enghraifft o'r problemau a erys heb eu datrys: A ydyw Prydferthwch yn ansawdd (quality) unigol a berthyn i wrthrych a welir, fel ffurf neu liw?
Tybiodd rhai, yn y dyddiau gynt, fod Prydferthwch yn briodoledd (quality) annibynnol yn y gwrthrych, a bod gan yr enaid gynneddf arbennig i'w hamgyffred,—tebyg lygad a genfydd ffurf a lliw.
Ond erbyn hyn, cydnebydd pawb nad yw Prydferthwch yn perthyn i'r un dosbarth o bethau â ffurf a lliw. Ansoddau anianyddol (physical) ydyw'r rhain. Beth bynnag ydyw Prydferthwch, nid yw'n ansawdd anianyddol. Dianc fel lledrith, o ddwylo ac offer gwyddoniaeth;—