Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ym mro (i) y mae'r alarch gwirioneddol, sylweddol.
Felly, ceir tri alarch,—nid dau fel y dywaid y cwpled: sef,—
(i) Alarch A1,=Alarch Bro'r Meddwl,—a welir a'r llygad ynghau.
(ii) Alarch A2=Alarch Bro Mater,—a welir â llygad o gnawd.
(iii) Alarch A3, Alarch Bro'r Cysgodion —a welir fel adlun A,
Gellir dangos perthynas y tri fel hyn:
A1,: A2: A3,
h.y.,
Y mae'r un berthynas rhwng A1, ac A2, ag sydd rhwng A2, ag A3,.
Neu fel hyn:
Y Sylwedd ydyw A1,
Rhith A1, ydyw A2,
Rhith A2, ydyw A3,
Cynnwys Prydferthwch gwrthrychau (A2, B2, C2, D2, etc.) ym mesur eu tebygrwydd i'w Delfrydau (A1, B1, C1, D1, etc.).
Perthyn holl gynhyrchion Celfyddyd,—cerfluniau, darluniau, adeiladau, pob ffurf ar farddoniaeth a rhyddiaith, a phob math