o gerddoriaeth i Fro'r Rhithiau—copies of copies,—copïau o gopïau,—adlun lluniau,—efelychiadau o A, B, C, D, etc. ydynt.
ARISTOTL.
"Metaphysics and Poetics"
Y mae gwahaniaeth rhwng peth prydferth a pheth cyfaddas. Saif Prydferthwch ar uwch tir na Defnyddioldeb.
Nid oes na nwyd na chwant o unrhyw fath yn y pleser a ddyry myfyrdod esthetig. Cymesuredd ydyw prif elfen Prydferthwch; ni ddylai'r gwrthrych na'i adrannau fod yn rhy fawr nac yn rhy fach.
PLOTINUS
Pan lunio Rheswm fater ar ffurf, mynega ryw feddwl; y ffurf honno ydyw Prydferthwch. Pan lunier gan Reswm artist feddyliau a wasanaetha fel patrymau i'w waith, dichon y rhain fod yn fwy prydferth na gwrthrychau natur.
D.S. Ceir yma awgrym o'r ddamcaniaeth fodern a elwir Ideoliad artistig (Artistic Idealization).
KANT
"Critique of the Power of Judgment"
Nid oes fodolaeth wrthrychol i Brydferthwch. Arwedd ar ymwybyddiaeth yr enaid ydyw.