Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Trig gwerth esthetig gwrthrych yn ei gyfaddaster i foddhau'r sawl a fyfyrio arno; rhaid i'r boddhad fod yn ddiduedd, yn rhydd oddiwrth bob cymhelliad hunanol, ac yn brofiad posibl i bawb. Prif swyddogaeth Prydferthwch ydyw arwyddlunio daioni moesol.
HEGEL.
"Philosophy of Fine Art"
| die sinnliche Erscheinung der Idee. | |
| Prydferthwch artistig= | the sensuous manifestationof the Idea. |
| amlygiad synhwyrus o'r Drychfeddwl. |
Prif elfen ffurf brydferth ydyw Unoliaeth mewn Amrywiaeth. Ceir hyn, fel rheol, yng ngwrthrychau Natur,—yn arbennig mewn ffurfiau ar fywyd: eithr yng nghynhyrchion celfyddyd y ceir ef ar ei orau. Gwna celfyddyd iawn am ddiffygion Prydferthwch naturiol drwy ddwyn y Drychfeddwl (Idea) i fwy o amlygrwydd. Cyfuniad Mater a Ffurf ydyw celfyddydau, hen a diweddar. Ynddynt amrywia goruchafiaeth y ffurf,—yr isaf yn y rhestr ydyw Pensaernïaeth, yr uchaf ydyw Barddoniaeth.