Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn ei gyfatebiaeth i'w gylchfyd. Canfyddir y nodweddion hyn gan reswm fel amlygiadau o nerth a bywyd anweledig.

Yr un ffunud am Brydferthwch Natur,—amlygiadau arddunol a threfnus ydynt o nerthoedd cudd anfaterol. Eglurir, felly, bob Prydferthwch, yn ei hanfod gwrthrychol, fel Ysbryd neu Nerth anymwybodol yn gweithredu mewn llawnder a threfn.

Yn y Saesneg, ceir dwy ysgol o Esthetegwyr; sef:

(i) Greddfolwyr (Intuitionalists); sef, y rhai a gydnebydd fodolaeth Prydferthwch gwrthrychol fel priodoledd neu egwyddor elfennol mewn pethau.

(ii) Dadansoddwyr (Analytical Theorists); sef, y rhai a arfer ddull dadansoddol ac eneidegol, gan edrych ar ymdeimlad o Brydferthwch fel twf cymhleth o elfennau symlach.

SHAFTESBURY.
"Characteristics"

Y mae Mater, ynddo ei hun, yn aflun a hagr. Gorffwys Trefn y byd, y trig ynddo bob Prydferthwch, ar egwyddor ysbrydol. Cynnyrch ysbryd ydyw pob symudiad a bywyd. Dirnedir Prydferthwch, nid â'r synhwyrau allanol, eithr â chynneddf fewnol, foesol, a genfydd ddaioni yn ogystal. Y