Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw'r Prydferthwch a ymdaen dros wyneb Natur; a gelwir yr amlygiadau hyn yn brydferth oblegid y mynegant, ac yr arwyddluniant hwnnw: e.e., trig Prydferthwch planhigyn yn ei gyfaddaster perffaith i'w ddiben,—perffeithrwydd a fynega ddoethineb ei Greawdwr.

HAMILTON.

Ceir mwynhad wrth fyfyrio ar wrthrych prydferth pan wêl y Dychymyg Amrywiaeth a'r Deall Unoliaeth, ynddo. Ni cheir unrhyw fath arall o fwynhad,—e.e., mwynhad synhwyrus,—wrth fyfyrio ar Brydferthwch. Nid oes a fynno cyfaddaster pethau prydferth â'r cwestiwn o gwbl.

Peth ysbrydol ydyw Prydferthwch, ac arwyddlun o briodoleddau dwyfol. rai o'i ffurfiau arwyddluniol:

Ffurfiau Prydferthwch Dyma Y Priodoleddau Dwyfol a arwyddlunnir ganddynt
1. Anfeidroldeb (Infinity) 1. Anamgyffredadwyaeth
2. Unoliaeth (Unity) 2. Amgyffredadwyaeth
3. Gorffwystra (Repose)   3. Sefydlogrwydd
4. Cymesuredd (Symmetry) 4. Cyfiawnder
5. Purdeb (Purity) 5. Egni
6. Cymedroldeb (Moderation) 6. Llywodraeth drwy Ddeddf