Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthrychau prydferth. Y Dychymyg, medd ef, a ddeffroir yn bennaf; rhed drwy'r meddwl nifer o feddylddrychau a gyfetyb i deimladau syml (e.e., llawenydd, tristwch, arswyd) a bair myfyrio ar y gwrthrych. Cymdeithasiad meddyliau, felly, ydyw prif ffynhonnell mwynhad esthetig.

A. BAIN. "The Emotions and the Will"

Perthyn tair nodwedd arbennig i bleserau esthetig; sef:

(i) Eu rhyddhad hollol oddiwrth bethau a berthyn i fywyd beunyddiol a'i ofynion. Chwenychir hwynt er eu mwyn eu hunain.
(ii) Eu purdeb,—ni cheir dim annymunol yn cydfyned â hwy nac yn eu dilyn.
(iii) Y maent oll yn gyfryw ag y gellir eu cydgyfranogi a'u cydfwynhau.

Cymer Bain olwg eang ar bleserau esthetig; cynnwys dan y term hwn (a) bleserau'r synhwyrau corfforol; (b) eu ffurfiau adnewyddol yn y meddwl; ac (c) fel yr adfywheir hwynt gan atgof; ac yn olaf (d) yr ymdeimlad—au a adweinir fel hoffter o newydd-deb, o wrthgyferbyniaeth, a chytgord.