Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfryw fwynhad ydyw maen praw prydferthwch ymhob celfyddyd.

Beirniader yr enghreifftiau syml a ganlyn wrth y maen praw hwn:

(i) Daw blagur ar y rhoslwyn ddechrau haf.
(ii) Edwina dail pob rhosyn ddiwedd haf.

Rhydd y llinell (i) ddarlun hudlawn o lwyn dan flagur; llonnir meddwl y darllenydd ganddo, teimla naws awel a heulwen Mehefin, ac ymgyll, am ennyd, mewn myfyrdod a bair lawenydd; h.y., rhydd y darlun fesur helaeth o fwynhad esthetig.

Rhydd y llinell (ii) ddarlun annifyr o rosddail gwyw; pruddheir meddwl y darllenydd ganddo, teimla chwaon a niwloedd Hydref, ac ymgyll, am ennyd, mewn myfyrdod a bair dristwch, cymysgedig â rhyw elfen felys; h.y., rhydd y darlun fesur prin o fwynhad esthetig. Gwelir, felly, yr ymddibynna natur a maint y mwynhad esthetig ar y darlun a awgrymir neu'r meddwl a fynegir.

Cadarnheir y casgliad hwn pan sylwir bod (i) a (ii), o ran ffurf, yn hollol gyffelyb,—y maent ar yr un Mesur (10 au), ac ar yr un Corfan (Corfan Talgrwn). I'r glust y mae'r llinell (ii) yn llawn mor bersain â'r llinell (i);