Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A'r bardd ei hun, nid un o'i gymeriadau, sy'n canu'r syniad." [Cofnodion Eisteddfod Genedlaethol, 1910, td. 40—41.]
Fel pregethwr, anghytunodd Pedrog â'r syniad; fel bardd, edmygodd dlysineb y gynghanedd; fel artist, gwerthfawrogodd brydferthwch llenyddol y cwpled; ac fel beirniad, dyfarnodd y wobr i'r awdur am ei waith athrylithgar ac am y mwynhad esthetig a gafodd wrth ei ddarllen.
3 Drwy arfer y dull dadansoddol uchod yn eu hymchwil am ateb i'r cwestiwn a ffurfia bennawd y bennod hon, dargenfydd Beirniaid y nodweddion canlynol fel prif elfennau Prydferthwch Llenyddol:
- (i) Y mater yr ymdrinir ag ef, neu'r darlun a awgrymir.
- (ii) Ffurf y mynegiant.
- (iii) Cyfuniad cyfaddas y mater a'r ffurf.
- (iv) Saerniaeth fedrus.
- (v) Arddull goeth. [Gwêl pen. VII.]
- (vi) Chwaeth bur. [Gwêl pen. VIII.]
- (vii) A llawer o'r nodweddion esthetig a nodwyd ym mhennod IX: e.e.:
(a) Cymesuredd (b) Cyfaddaster (c) Cysondeb (d) Unoliaeth (e) Gorffennedd, etc. etc.