Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI
REALAETH AC IDEOLAETH

(Realism and Idealism)

1. Wrth Realaeth golygir disgrifio gwrthrychau fel y maent, fel y canfyddir hwynt gan y synhwyrau corfforol; h.y., efelychiad gwasaidd o'r hyn a welir, a glywir, a deimlir, a archwaethir, ac a aroglir.

Ac wrth Ideolaeth golygir darlunio gwrthrychau fel y delweddir hwynt gan ddychymyg yr artist, fel y canfyddir hwynt gan ei feddwl. Felly, cynnyrch Ideoliad artistig ydyw Ideolaeth. [Gwêl IX, 10, td. 127.]

2 A yw Realaeth yn bosibl? A ellir disgrifio gwrthrychau yn gyfangwbl fel y maent,—heb unrhyw elfen ideol yn y disgrifiad?

Y mae'n amlwg i'r sylwedydd mwyaf arwynebol na all Celfyddyd byth efelychu Natur yn hollol. Ni all na cherflun, na darlun, na cherdd adgynhyrchu holl ragoriaethau a phrydferthion y patrwm byw. Ni ellir darlunio coeden mor hardd ag y mae yn y maes dan dywyniad heulwen haf. Y mae'r ffotograff a wna'r haul drwy gyfrwng y camera yn llawer cywirach na'r darlun a dyn yr