Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A sensible person can easily distinguish between that which he cannot understand and that in which there is nothing to understand."—COVENTRY PATMORE.
- (iii) Beirniedwch bob gwaith llenyddol yn ei ddosbarth,—Awdl, Pryddest, Arwrgerdd, Telyneg, Emyn, Traethawd, Araith, Nofel, Stori, Drama.
Yn gyntaf oll, wrth gwrs, beirniedwch y gwaith ar ei ben ei hun; chwilier am ei werth fel y mae ynddo ei hunan; ac yna beirniader ef yn ei berthynas â'i rywogaeth. O bosibl y ceir ef o rywogaeth newydd,—sui generis, fel y digwydd gwaith athrylith newydd bron bob amser.
- (iv) Beirniedwch heb na chas na serch, heb na dicter na thosturi, heb na rhagfarn na mympwy. Ni ddylai Beirniad Llenorol gael ei feddiannu gan ysbryd, glân nac aflan—unrhyw "ysgol".
- (a) Candid criticism should be neither benevolent nor adverse; its function is to give a just judgment, without partiality or bias."—E. GOSSE.
- (b) A false or malicious criticism had better never have been written.—M. ARNOLD.
- (:c) Beware of that "eternal enemy of Art,—Caprice."—M. ARNOLD.