Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- (xii) Ymgydnabyddwch â llenyddiaeth gwledydd eraill; canys oni ŵyr awdur a beirniad rywbeth am lenyddiaeth heblaw eiddo'i wlad ei hun, ni all roi'r gwerth iawn ar ei waith; rhaid wrth gymharu a chyferbynnu mewn beirniadaeth fuddiol. Dyma un o wendidau gwaith Aristotl ar Feirniadaeth Lenorol; seiliwyd ei waith yn y maes hwn, o angenrheidrwydd, ar lenyddiaeth gwlad Groeg yn unig. Wrth gofio hynyma, gwelir bod llawer o wirionedd yn sylw Dryden, a ddyfynnwyd eisoes."If Aristotle had seen ours :(h.y., y ffurf Seisnig ar drasiedi) he might have changed his mind."
Gyda llaw, mynnwch wybodaeth am lenyddiaeth cenhedloedd eraill, o leiaf un o honynt, yn y gwreiddiol; nac ymfodlonwch ar gyfieithiadau'n unig.
"Second-hand accounts of literature are absolutely devoid of any value whatever."—G. SAINTSBURY.
- (xiii) Ni ddylai cydymdeimlad â mater, na gwrthwynebiad iddo, ymyrryd â barn am ffurf unrhyw waith llenyddol.
- (xiv) Cofier mai rhoddi mwynhad, nid addysg, ydyw prif amcan Celfyddyd.
"Literature in general, poetry in particular, should of course, instruct; but it 'must' delight."—G. SAINTSBURY.