Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- (xv) Nid yw newydd-deb llenyddol, ynddo ei hun, na gwall na gwelliant. Barner pob ffurf newydd mewn llenyddiaeth ar ei theilyngdod.
"In dealing with new literary forms we must use new literary measures."—G. SAINTSBURY.
- (xvi) Dylid cadw mewn cof yr amrywia teithi athrylith ac ieithoedd gwahanol genhedloedd. Fel rheolau Gramadeg, y mae i bob iaith neilltuolion Arddull mewn Rhyddiaith, a deddfau cynghanedd mewn Barddoniaeth. Arall yw godidowgrwydd y Roeg, ac arall yw godidowgrwydd y Lladin, ac arall yw godidowgrwydd ieithoedd diweddar: canys y mae rhagor rhwng iaith ac iaith mewn godidowgrwydd. Felly, hefyd, arall yw gogoniant Homer, ac arall yw gogoniant Esaia, ac arall yw gogoniant Dafydd ap Gwilym.
- (a)" To select the favourite critical fancy of any time as the unum necessarium is fatal."
- (b) "One literature or one language cannot prescribe anything to another; it may teach much."—G. SAINTSBURY.
- (xvii) Ymhob dadl ynglŷn â ffurfiau mynegiant llenyddol, ystyrier yn fanwl werth pob ffurf ynddi hi ei hun, cyn eu cymharu