Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(xxii) Na fyddwch gaethwas i Glasuryddiaeth nac ysglyfaeth i Rhamantyddiaeth. Nac addolwch eilunod, hen na diweddar, duwiau nadd na duwiesau roeth. Gwrandewch ar eu horaclau; profwch a ddywedant, a deliwch yr hyn a fo da ynddynt.

Despise nothing which the past can teach; reject nothing which the present offers."—J. A. SYMONDS.

(xxiii) Cofiwch y Pum Ffordd, yn ôl Aristotl, y gellir beirniadaeth gondemniol ar ryw waith llenyddol:
"There are five sources from which critical objections are drawn: things censured as impossible, or irrational, or morally hurtful, or contradictory, or contrary to artistic correctness."—Cyf. BUTCHER.
(xxiv) Ni ddylid ysgar na gair na brawddeg na meddwl na ffigur oddiwrth eu cyd-destun. Cyll aelod cerflun ei ystyr pan ysgarer ef oddiwrth y corff. Trig gwerth a llawer o brydferthwch pethau, yn arbennig mewn llenyddiaeth, yn eu cyd-berthynas.
(xxv) Uwchlaw pob dim, nac anghofiwch ddeddfau a safonau Estheteg. Dyma'r maen praw terfynol ym mhob Beirniadaeth Lenorol o werth; dyma'r Cesar y gwneir yr apêl olaf ato. Fel y dywaid G. Saintsbury: