i gynhyrchu gorchestweithiau, clasuron mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Ac wedi cael corff o lenyddiaeth, cynhyrchion athrylith llawer oes, y mae gan Feirniadaeth ddefnyddiau i ymdrin â hwynt, i'w myfyrio, a thynnu casgliadau oddiwrthynt a ffurfia sail atebion i'r holiadau uchod.
Yn hyn o waith, dilyn Beirniadaeth y dull gwyddonol, yn gyntaf oll, casgl ac astudia'r ffeithiau fel y ceir hwynt yng ngweithiau gorau awduriaid gorau pob cyfnod; ac yna chwilia am yr egwyddorion a orwedd dan y ffeithiau, ac a gyfrif am werth arhosol gweithiau Athrylith.
O ran adeg genedigaeth, Beirniadaeth ydyw'r olaf o'r celfyddydau llenyddol; er hynny, diwedda, yn ôl pob tebygolrwydd, fel gwialen Aron, drwy lyncu'r lleill i gyd.
7. Yn raddol, goleua Beirniadaeth Lenorol farn pobl, dyrchaif eu chwaeth, a chrea ynddynt awydd am brofi ffrwyth aeddfetaf athrylith pob gwlad. Ac ambell waith, ymddengys Beirniad craff ei feddwl, annibynnol ei farn, ac o athrylith feiddgar, a bair chwyldroad megis mewn un dydd mewn rhyw faes llenyddol. Dan ei ordd chwilfriwir hen eilunod, a cherfir gan ei gŷn ddelwau newyddion o'r mynor gwynnaf yn eu lle. I Feirniadaeth Lenorol ddiweddar nid oes dim yn gysegredig; gesyd ei llaw yn ddiofn ar bob arch y dywedir bod "crochan aur a manna,' a memrwn ynddi. Myn weled beth ydyw'r trysor a guddir ymhob coffr.