Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A. 1. Pa feddyliau a theimladau a ellir eu mynegi mewn llenyddiaeth na ellir eu mynegi yn y Celfyddydau eraill?
2. Beth ydyw perthynas Mater a Ffurf mewn llenyddiaeth?
3. Beth ydyw perthynas y Gelfyddyd lenyddol â Natur.
4. A ellir ysgar Meddwl oddiwrth Iaith? h.y. a ellir meddwl heb gymorth geiriau?
5. Eglurwch:
I Mewn Mater ac Iaith y mae i'r ddwy gelfyddyd :(barddoniaeth a rhyddiaith) gryn lawer o'r un defnyddiau. Ond gwahaniaethant yn hollol yn eu Ffurf. Y mae barddoniaeth yn fydryddol, rhyddiaith yn ddifydr; yma y mae'r gwahanfur yn glir a phendant. —J. MORRIS JONES. [Cerdd Dafod, § 187 :(3).]
B. Cyfieithwch a beirniedwch:
- (a) In the substance of literature invention plays no part; all is commonplace. Originality inheres only in the form. —F. BRUNETIÈRE (G. & S.).
- (b) Thought and language are identical.—MAX MÜLLER.