Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- (b) Dyma gyfnod y gwŷr wrth gerdd, y llenorion proffesedig, amseroedd ysgolion y beirdd a'r athrawon mewn prydyddiaeth a beirniadaeth.—S.L.
- (c) Fe dyfodd ac fe addfedodd yn yr ysgolion hynny gorff o feirniadaeth lenyddol a damcaniaethau am lenyddiaeth sy'n ddifwlch o Einion Offeiriad hyd at Simwnt Fychan.—S.L.
- (d) Y damcaniaethau hyn yw prif gyfraniad Cymru i feddwl esthetig Ewrop.—S.L.
- (e) Williams :(Pantycelyn) yw'r bardd pwysig cyntaf ar ôl y Cyfnod Clasurol, ac yr oedd ei ffilosoffi ef, ei dyb am natur ac amcanion barddoniaeth, yn groes i holl ddamcaniaethau'r Estheteg Gymreig.—S.L.
- (f) Dwy gelfyddyd gain yn unig a gydnabuwyd yn yr Oesoedd Canol, sef, cerdd dafod a cherdd dant.—S.L.
- aaa ##
- bbb ##
32
A. 1. Beth ydyw perthynas profiad esthetig â'r mynegiant o hono? A ydyw profiad yn gyflawn, ac yn eiddo personol sicr, pan nas mynegir o gwbl?
2. Eglurwch:
- (a) Cynnyrch ewyllys bardd oedd y farddoniaeth glasurol, ac yntau bob