Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a wnaeth Ellis Wynne, a thrwy hynny gychwyn traddodiad mewn rhyddiaith Gymraeg a erys hyd heddiw, tyst o straeon byr Miss Kate Roberts sydd yn ei olyniaeth ef.—S.L.

(c) Ys gwir bod beirdd a beirniaid hyd heddiw yng Nghymru, a rhai o honynt yn wŷr o bwysau, yn cyfrif sillafau mewn canu rhydd. Ni all y rheini ddeall crefft Pantycelyn.—S.L.
(d) Nid oes gan Williams ddim i'w ddysgu am grefft y canu rhydd gan neb a'i dilynodd.—S.L.
(e) Gellir dysgu egwyddorion y mesurau rhyddion yn unig o astudio ei waith ef. —S.L.
(f) Iaith Pantycelyn yw cyfrwng y farddoniaeth hynotaf a sgrifennir heddiw, a mawr yw dyled y ddrama iddi.—S.L.
    1. aaa ##
    2. bbb ##

36

A. 1. Ym mha beth y trig gwerth pennaf Emyn? Yn ei farddoniaeth? Ei gyfriniaeth? Ei ddiwinyddiaeth? Ei ysbrydolrwydd? Ei symlrwydd? Ei brofiad? Ei ffurf? neu ei fater?

2. Beth ydoedd dylanwad Pantycelyn a'i waith ar grefydd, emynyddiaeth, a llenyddiaeth gyffredinol Cymru?