Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(b) Y mae'r dychymyg yn efelychu natur trwy ddarparu tanwydd i'r enaid; ond pan gyneuo yn yr enaid, tân natur ei hun yw hwnnw. —J.M.J.
(c) Ni ellir dysgu hanfod arddull i neb.—J.M.J.

2. Rhoddwch enghreifftiau i brofi a ganlyn:

(a) Ar fesur syml rheolaidd y mae caniadau mawr y byd.—J.M.J.
(b) Gwaith a diben celfyddyd ydyw efelychu natur a gwella arni.—J.M.J.

B. Beirniedwch:

(a) Trosedd llenyddol ydyw dilyn tafodiaith lle bo safon llên yn glir.—J.M.J.
(b) Y mae'r Beibl yn cadw'r hen draddodiad yn llawer cywirach na'r un o'r tafodieithoedd yng Ngogledd na Deau; ac y mae'n awdurdod uwch na'r un o honynt yn y peth hwn.—J.M.J.
(c) O natur y cad dulliau pob crefft, ond y mae'r crefftwr yn etifedd profiad oesoedd o'u dethol a'u harfer.—J.M.J.
(d) Dawn natur ydyw'r gallu i ganfod prydferthwch iaith, ac yn arbennig i dderbyn ei argraff, a'i atgynyrchu mewn meddyliau newydd.—J.M.J.