Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(b) Gall Cyfieithiad, hyd yn oed ar ei orau, wneuthur mwy o ddrwg na daioni i ddrama sydd yn ei mebyd.—D.R.D.
(c) Y mae cyfieithiad sâl yn waeth na bod heb gyfieithiad o gwbl.—D.R.D.
(d) Y mae efelychiad nid yn unig yn ddichonadwy ond yn gyfreithlon, buddiol, a chymeradwy; ond gall gormodedd o hono andwyo tyfiant ein drama genedlaethol.—D.R.D.
(e) Nid cyfieithiad ac nid efelychiad ydyw'r meysydd priod i ddramâwyr Cymru, eithr ein hanes,—gyda'r digwyddiadau cyffrous a phwysig. Y mae angen hanesydd—ddramâwr arnom.—D.R.D.
(f) Erys inni y ddrama sy'n ymdrin â chymdeithas yn ei gwahanol agweddau, a dyma'r maes ehangaf.

—D.R.D.

(g) Y mae yn nrama cymdeithas bosibilrwydd rhoddi i'r bobl gelwydd dichonadwy, a gwirionedd annichonadwy.—D.R.D.