a chân, mewn llun a lliw. Yn y modd hwn y tyf ac yr ymddatblyga Cydwybod Esthetig y bardd a'r llenor, oni wypo, megis drwy reddf, pa bethau sydd bur, pa bethau sydd hawddgar, pa bethau sydd ganmoladwy." [1]
(v) Gwerth y Meddylwaith. Seilir pob gwaith llenyddol, fel popeth a lunia Celfyddyd, ar feddylwaith i raddau mwy neu lai. Yn wir, dyna nôd angen Celfyddyd yn ei holl ganghennau,—sef, ymgais i fynegi meddyliau a theimladau dyn mewn ffurfiau prydferth.
A chymryd barddoniaeth yn enghraifft, gellir egluro hyn fel y canlyn:
Os saif A1 A1, A1, . . . am wrthrychau a gweithrediadau Natur,
A2 A2 A2 . am argraffiadau, meddyliau, a theimladau dyn yn eu gŵydd,
A3, A3, A3, . Am fynegiadau o'r cyfryw mewn cerddi gan fardd,
yna, nôd pennaf Celfyddyd ydyw gofalu bod y gyfres A2, A2, A2, .yn ffrwyth sylwadaeth fanwl a chywir o brif nodweddion A1, A1, A1,. a bod A3, A3, A3, yn adgynhyrchion ffyddlawn a phrydferth o A2, A2, A2, . . . I'r graddau y
- ↑ Gwêl Pen. VIII, td. 98.