Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Elfennau Beirniadaeth Lenorol.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llwydda'r bardd i wneuthur hyn, i'r graddau hynny'r ystyrrir ei waith yn gelfydd, neu'n ddarn o gelfyddyd.

-

Pan fo A3=A2=A1, ceir gorchestwaith perffaith.

Gyda llaw, sylwer y dilyn creadigaethau bardd yr un drefn â chreadigaeth Duw,—"Yn gyntaf yr anianol, ac wedi hynny'r ysbrydol."

Fel eglureb, darllener "Mab y Mynydd,"—cerdd yng Nghaniadau'r Allt gan Eifion Wyn. Sonnir yn y gerdd hon am amryw wrthrychau a gweithrediadau Natur: e.e., mynydd, lluwch, gwynt, ci, gwaed, bugail, glas y nef, gwawr, creyr, ceunant, defaid, llechwedd, dôl, sidan, ŵyn, myllt, marian, hyrddod, nant, maen, mynor, torch, blodau, beddrod, grug. Dyma A1 A1 A1. Parodd pob un o'r gwrthrychau hyn argraffiadau, meddyliau, a theimladau yn ysbryd y bardd. Dyma A2 A2 A2 . . . Dan eu swyn corfforodd y bardd yr arweddau hyn (A, A, A, . . .) ar ei ymwybyddiaeth mewn geiriau cyfaddas, ffigurau awgrymiadol, a brawddegau llawn teimlad, a'r cwbl mewn penillion llawn o fiwsig, mewn cerdd lawn o brydferthwch. Dyma A3 A3 A3. Gwelir bod i'r safon hon ran o sefydlogrwydd Natur, y sydd, fel ei Hawdur, "Yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Barned y darllenydd drosto ei hun pa mor agos y daw A3 i A1. Yr agosrwydd hwn i'r safon yw gwerth y gerdd.